TeacherActive
Logo

Athro/Athrawes Ysgol Gynradd (Temporary)

22 October by TeacherActive : Wales : Swansea

Job Location:
United Kingdom -Wales -Ceredigion -Ceredigion
Salary:
£172.98 - £172.98/day

Teitl y Swydd: Athro/Athrawes Ysgol Gynradd

Lleoliad: Ceredigion

Dyddiad Dechrau: Dechrau ar Unwaith

Cyflog: £172.98

 

Cwestiwn 1: A allwch chi ysbrydoli meddyliau ifanc drwy ddefnyddio dull addysgu diddorol a deniadol?

Cwestiwn 2: A oes gennych sgiliau rheoli dosbarth cryf?

Cwestiwn 3: A oes gennych wybodaeth gadarn am y Cwricwlwm Cynradd?

 

Mae TeacherActive, un o asiantaethau recriwtio addysg mwyaf blaenllaw'r DU, yn falch o fod yn gweithio gyda nifer o ysgolion cynradd ledled Ceredigion. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu athrawon cynradd ymroddedig, brwdfrydig ac o safon uchel i'n hysgolion, yn ogystal â chynnig cyfleoedd arbenigol mewnol ar gyfer datblygiad proffesiynol a dilyniant gyrfa er mwyn cynnal ein safonau uchel.

P'un a ydych yn athro neu'n athrawes gynradd sy'n chwilio am waith cyflenwi o ddydd i ddydd, swyddi hirdymor neu swyddi parhaol, mae ein tîm arbenigol o ymgynghorwyr yn gweithio gydag amrywiaeth o ysgolion a lleoliadau addysgol. Byddant ar gael 24/7 i'ch cefnogi drwy ein proses gofrestru ar-lein syml a hwylus.

Rydym yn chwilio am athrawon cynradd yng Ngheredigion sydd â'r canlynol:

  • Statws Athro Cymwysedig (SAC/QTS) – croesewir athrawon newydd gymhwyso (NQTs) hefyd
  • Profiad o addysgu mewn ysgol gynradd
  • Sgiliau rheoli dosbarth rhagorol

Yn gyfnewid am yr uchod, gallwch ddisgwyl derbyn:

  • Tîm ymroddedig o ymgynghorwyr sydd ar gael 24/7 i'ch cefnogi drwy'r broses gofrestru syml
  • Cyrsiau a thystysgrifau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP/CPD) fel rhan o'n rhaglen My-Progression
  • Cyfraddau cyflog sy'n arwain y farchnad
  • Cynllun Cyfeirio Ffrind TeacherActive – Derbyniwch hyd at £100 pan fyddwch yn cyfeirio ffrind atom! Mae telerau ac amodau'n berthnasol.

Mae ein staff yn cael eu talu drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE), felly gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn talu'r swm cywir o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol. Nid oes unrhyw ffioedd gweinyddol ychwanegol yn cael eu tynnu o'ch cyflog haeddiannol.

Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon, cliciwch ar 'GWNEWCH GAIS NAWR' a byddaf yn cysylltu â chi i drafod y cyfle gwych hwn.

E-BOST: Tomsi.bradley@teacheractive.com

RHIF CYSWLLT: 01792 717477

Application Details

Want to apply faster? log in   sign up
Fields marked * are mandatory and must be completed.
* Upload your CV
No file chosen
Cover letter

Personal details

Title
* First name
* Last name
* Email address
Mobile phone
Home phone
Work phone

Eligibility

* Work eligibility
You need to indicate if you are eligible to apply for this vacancy located in the United Kingdom


Powered by Logic Melon ATS • Privacy Policy
© Copyright 2026